Mae Swyddle yn cynnig mynediad at siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru ac sy’n meddu ar sgiliau gwahanol.
Rydym ni’n cynnig ystod pwrpasol o becynnau recriwtio gyda strwythurau cost hyblyg ac sy’n addas i chi (gan gynnwys recriwtio ar sail comisiwn neu ffi penodedig).
Ein gwasanaethau
- Recriwtio Parhaol a Chontractau
- Atebion i staffio dros dro ar draws Cymru ac ar gyfer pob sector
- Gwasanaeth hysbysebu swyddi pwrpasol, gan gynyddu eich cyrhaeddiad
- Rhwydwaith Cymru-gyfan o siaradwyr Cymraeg proffesiynol
- Cronfa Ddata arlein o siaradwyr Cymraeg sydd wedi’u hasesu y gellir ei chwilio
Yn ychwanegol i’ch cynorthwyo i ddenu pobl i’r cwmni neu sefydliad, rydym yn cynnig gwasanaethau busnes ychwanegol, gan gynyddu eich ymrwymiad i ddwyieithrwydd yn y gweithle ac yn holl bwysig, y farchnad:
- Gwasanaethau Rheoli Gweithwyr a Gweinyddol Dwyieithog
- Cyfathrebu Dwyieithog
- Hwb Dwyieithog – mae Swyddle hefyd yn borth sy’n arwain at wasanaethau dwyieithog eraill fel adeiladu gwefan, cynllunio graffeg, cyfieithu, cyfrifo a chyflogres, cyngor cyfreithiol, cynyrchiadau clyweledol a mwy.
- Gwneud y gorau o Dendrau ar gyfer Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru
Rydym ni’n cynnig ystod pwrpasol o becynnau recriwtio gyda strwythurau cost hyblyg ac sy’n addas i chi (gan gynnwys recriwtio ar sail comisiwn neu ffi penodedig).
Adnoddau Cyflogwyr
Cytundeb Hysbysebu Swydd
Rwy’n deall bod hysbysebu swydd gyda Swyddle yn wasanaeth a thal. Ar ôl postio swydd bydd aelod o’r tîm yn cysylltu gyda chi i drafod ein telerau hysbysebu.
Golygu Swydd
You need to be signed in to manage your listings. Sign in